Newyddion diweddaraf – edrychwch ar dudalen Instagram AHNE Llŷn.
Rydym yn cynnal amryw o ddigwyddiadau yn cynnwys teithiau cerdded, hyfforddiant sgiliau gwledig a sgyrsiau, cysylltwch am fwy o wybodaeth.
Mae ein rhifyn diweddaraf o newyddlen Llygad Llŷn ar gael yn ddigidol yma (yn ogystal â rhifynnau blaenorol). Copïau caled hefyd ar gael mewn amryw o siopau lleol ac atyniadau megis Nant Gwrtheyrn ac Oriel Plas Glyn y Weddw. (Os ydych yn berchen ar fusnes neu atyniad yn lleol ac yn dymuno derbyn bocs i’w ddosbarthu ymysg eich cwsmeriaid, cysylltwch gyda ni).
Hefyd, buasem yn croesawu unrhyw sylwadau neu awgrymiadau am y rhifyn diweddaraf – ac yn gwerthfawrogi eich barn!
Mae ein Cystadleuaeth Ffotograffiaeth ar agor! Gyrrwch hyd at ddau lun atom ni yn dangos Penrhyn Llŷn ar ei orau!
E-bost: ahnellynaonb@gwynedd.llyw.cymru
Cewch fwy o wybodaeth am sut i ymgeisio, y gwobrau a’r rheolau cystadlu yn newyddlen diweddara Llygad Llŷn.
2023 AHNE Llŷn
gwefan gan WiSS