Tîm yr AHNE

Mae’r Uned AHNE wedi ei leoli yn swyddfa’r Cyngor ym Mhwllheli.

Prif amcan yr uned yw rheoli’r AHNE o ddydd i ddydd ag i weithredu’r Cynllun Rheoli sydd wedi ei lunio’n benodol ar gyfer yr ardal.

Cliciwch yma i wybod mwy am reoli'r AHNE a gweld copi o'r Cynllun Rheoli.

Mae’r Uned yn cynnwys dau aelod o staff.

Bleddyn Prys Jones – Swyddog AHNE Llŷn

Bleddyn Prys Jones – Swyddog AHNE Llŷn

Fel y Swyddog AHNE, mae Bleddyn yn arwain gwaith y Cyngor ar weithgareddau creiddiol yr AHNE, sef arwain, a chydlynu y gwaith o baratoi a gweithredu y Cynllun Rheoli statudol ar gyfer yr ardal.

Morus Llwyd Dafydd – Swyddog Prosiectau AHNE Llŷn

Fel Swyddog Prosiectau, mae Morus yn arwain ar brosiectau yn deillio o’r Cynllun Rheoli. Elfen arall o’r gwaith yw gweithredu grant y Gronfa Datblygu Cynaliadwy, trefnu digwyddiadau i hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth am yr AHNE, a chynorthwyo i weithredu a diweddaru'r Cynllun Rheoli.

Kevin Roberts – Warden Cefn Gwlad AHNE Llŷn

Penodwyd Kevin Roberts yn Warden Cefn Gwlad yr AHNE yn Mawrth 2021 gyda chefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru. Mae’r Warden yn arwain ar brosiectau mynediad, natur a cynnal a chadw yn yr AHNE ac cydweithio gyda ein tîm o wirfoddolwyr.

2024 AHNE Llŷn
gwefan gan WiSS