Llwybr Arfordir Cymru

Llwybr Arfordir Cymru

Datblygwyd Llwybr Arfordir Cymru gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, yr Awdurdodau Lleol perthnasol a Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ac Eryri. Y bwriad oedd adeiladu ar lwyddiant llwybrau arfordir mannau fel Llŷn, Môn a Phenfro a chreu llwybr ar hyd arfordir Cymru gyfan. Yn dilyn llawer o waith cafodd y Llwybr Arfordir Cenedlaethol, sy’n ymestyn am 870 milltir, ei lansio yn 2012.

Yn Llŷn mae’r Llwybr Cenedlaethol yn dilyn arfordir yr AHNE o Aberdesach ar yr arfordir gogleddol i Carreg y Defaid ger Llanbedrog yn y de. Mae’r llwybr wedi ei ddatblygu a’i wella dros y blynyddoedd fel ei bod yn dilyn yr arfordir mor agos â phosibl. Mae’r Llwybr Arfordir yn darparu cyfle arbennig i weld harddwch arfordir Llŷn – gellir gweld y traethau amrywiol, creigiau geirwon a’r ynysoedd. Hefyd mae bywyd gwyllt diddorol i’w weld yn cynnwys adar môr o bob math, morloi a dolffiniaid. Yn ogystal mae yna lawer o olion hanesyddol i’w gweld ar hyd arfordir Llŷn – hen chwareli, iardiau glo, glanfeydd a gweddillion llongau. Cadwch olwg am arwyddion QR Pwyntiau Hanes sydd yn bosib eu sganio i gael mwy o wybodaeth am fannau penodol.

Llwybr Arfordir Cymru


Am fwy o wybodaeth am y Llwybr Arfordir, gan gynnwys mapiau i'w lawrlwytho, ewch i wefan Llwybr Arfordir Cymru.

2024 AHNE Llŷn
gwefan gan WiSS