Rhan bwysig o waith yr Uned AHNE yw datblygu a gwireddu prosiectau. Dyma ddetholiad o brosiectau y bu i’r Uned AHNE fod yn gweithio arnynt yn ddiweddar:
Er mwyn ceisio annog ailgylchu a lleihau sbwriel sy’n mynd i safleoedd tirlenwi mae’r Uned wedi gosod biniau ailgylchu pwrpasol mewn 3 lleoliad yn yr AHNE. Rydym wedi cydweithio gyda Gwasanaeth Bwrdeistrefol y Cyngor a’r aelodau lleol i ddewis lleoliadau addas ar gyfer y biniau ac yn y diwedd penderfynwyd ar y lleoliadau canlynol:
- safle picnic y Foel Gron, Mynytho
- ger y toiledau, traeth Aberoch
- ger y lloches bws, pentref Trefor
Mae’r biniau yn cynnwys rhannau i gasglu poteli, papur a photeli plastig yn ogystal â rhan i roi sbwriel cyffredinol. Rydym yn mawr obeithio y bydd y biniau newydd yn llwyddiant ac yn ystyried gosod rhai eraill yn y dyfodol.
Comisiynwyd yr hanesydd lleol, Glyn Roberts, Bryncroes i gynnal gwaith ymchwil ar ran yr Uned AHNE i hen adeiladau diwydiannol yn Llŷn gan ganolbwyntio ar yr hen felinoedd (melinoedd dŵr). Mae Glyn wedi olrhain hanes nifer helaeth o’r melinoedd gan gasglu gwybodaeth ddiddorol am eu lleoliad, adeiladwaith, peirianwaith a’r unigolion oedd yn eu rhedeg.
Er mwyn sicrhau fod yr wybodaeth yn cael ei rannu gyda’r gymuned mae Glyn wedi bod yn cynnal sgyrsiau lleol, wedi ysgrifennu colofn yn y papur bro Llanw Llŷn a chynnal arddangosfa yn Sarn yn 2019. Gellir gweld mwy am y brosiect hwn yn y rhifyn diweddaraf o Llygad Llŷn, newyddlen yr AHNE.
Yn ddiweddar mae’r Uned wedi bod yn gweithio ar y cyd hefo Cyfoeth Naturiol Cymru ar brosiect i drin yr Efwr Enfawr ar Afon Soch. Mae’r Efwr Enfawr yn blanhigyn mawr sy’n gormesu planhigion eraill cynhenid ac yn creu erydiad ar ochrau afonydd. Hefyd gall fod yn niweidiol i bobol oherwydd fod sug y coesyn yn llosgi’r croen. Cychwynnodd y prosiect yn 2017 gyda arolwg i fapio presenoldeb yr Efwr ar lannau’r afon yn ardal Seithbont, Botwnnog. Y flwyddyn ddilynol cafodd yr Efwr ei drin drwy trwy chwistrellu’r coesyn gyda cemegolyn ac mae’r gwaith yma wedi parhau bob blwyddyn ers hynny. Y nod yw cael gwared â’r Efwr Enfawr yn gyfangwbl o’r rhan yma o Lŷn.
Mae’r Uned AHNE hefyd wedi bod yn cofnodi safleoedd cyhoeddus yn yr ardal lle mae’r canglwn siapaneaidd (“japaneese knotweed”) yn bodoli ac wedi trin y planhigyn mewn rhai mannau e.e traeth Trefor a Bryn Mynach, Nefyn.
Mae Uned AHNE Llŷn yn cydweithio gyda AHNE Ynys Môn, AHNE Bryniau Clwyd a Pharc Cenedlaethol Eryri ar y prosiect Nos. Bwriad y prosiect yw cynnal, gwarchod a hyrwyddo awyr dywyll y nos yn yr ardaloedd a gweithio ar statws rhyngwladol Awyr Dywyll. Eisoes mae’r Parc Cenedlaethol wedi derbyn statws Gwarchodfa Awyr Dywyll tra mae’r 3 AHNE yn gweithio tuag at statws Cymuned Awyr Dywyll. Fel rhan o’r prosiect byddwn yn cydweithio i fonitro yr awyr dywyll, codi ymwybyddiaeth am lygredd goleuadau a chynnal digwyddiadau gwylio sêr. Mae gwaith prosiect Nos yn cael ei gydgordio y swyddog prosiect – Dani Robertson: Dani.Robertson@eryri.llyw.cymru
Gellir cael mwy o wybodaeth am brosiect Nos drwy ddilyn y linc ganlynol: www.discoveryinthedark.wales/cym/project-nos
Ers 2016 mae’r Cyngor wedi derbyn cyllid i gefnogi prosiectau cyfalaf yn yr AHNE gan Lywodraeth Cymru (mae AHNE eraill wedi derbyn cefnogaeth debyg). Mae’r arian yma wedi bod yn ddefnyddiol iawn ac wedi caniatáu inni wneud llawer o welliannau yn yr ardal. Dyma wybodaeth am rai o’r prosiectau a gafodd eu gwireddu drwy’r cynllun hwn yn ystod y flwyddyn ddiwethaf (2019-20):
Mae eglwys Beuno Sant wedi ei lleoli yng nghanol cefn gwlad ac yn sicr yn un o'r safloedd hanesyddol hynny sy’n cyfrannu yn fawr at amgylchedd yr AHNE. Bwriad y prosiect hwn oedd gwella mynediad ac fe adnewyddwyd giatiau ar y llwybr i’r eglwys a gosod arwyddion pren newydd. Hefyd gwnaed gwaith barbio a thorri coed ansefydlog yn y fynwent.
Roedd cyflwr ac edrychiad y wal derfyn sydd ar ochor y lôn o bentref Llithfaen i fyny am Cae’r Nant wedi dirywio yn arw yn y blynyddoedd diwethaf. Roedd y wal wedi bochio a cherrig yn disgyn i’r lôn gan ei gwneud yn anodd i gerbydau basio ei gilydd. Yn dilyn cael cadarnhad o grant gan Llywodraeth Cymru bu i’r Uned AHNE gydweithio efo’r tirfeddianwr, Canolfan Iaith a Threftadaeth Nant Gwrtheyrn a’r Cyngor Cymuned i wireddu’r prosiect. Comisiynwyd Ymgynghoriaeth Gwynedd i gydgordio’r gwaith o ddymchwel ac ail-godi’r wal yn ogystal â chreu un lle pasio. Yn dilyn creu cynllun a thendro’r gwaith penodwyd cwmni arbenigol lleol i wneud y gwaith yn ystod gaeaf 2019-20. Bellach mae’r gwaith wedi ei orffen ac mae’r wal yn gadarn, mae mynediad i Nant Gwrtheyrn ac ardal yr Eifl wedi gwella a mae gwelliant gweledol amlwg ar dirlun yr AHNE.
Bu Dewi Owen o’r Gwasanaeth Cefn Gwlad yn arwain ar y prosiect yma i wneud gwelliannau i hawliau tramwy rhif 10, 12 a 29 ym mhlwyf Llanengan. Roedd yn gwaith yn cynnwys gosod pontydd coed dros fannau gwlyb, creu grisiau cerrig a gosod giatiau yn lle camfeydd. Mae’r llwybrau dan sylw yn llawer haws a mwy dymunol i’w cerdded yn dilyn y gwaith a wnaed.
2023 AHNE Llŷn
gwefan gan WiSS